Cwt Ieir

Neilltuaeth Pabell eich hun mewn Cwt Cysgu Cynnes

Mae’r ‘cwt ieir’ wedi ei osod ar wersyllfa Dolgam, sydd rhwng Betws y Coed a Chapel Curig ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

  • Cwt cysgu/pabell ddiddos
  • Wedi ei ynysu’n dda

Gan fod y ‘cwt ieir’ ar gael drwy’r flwyddyn, mae’n bosibl dod i fwynhau Eryri’n gysurus pob tymor.

Dim Ysmygu
Dim Cŵn

Manylion Cwt Ieir

Mae waliau a tho’r cwt wedi eu hynysu’n dda a dau wely aer parod ynddo ar eich cyfer, yn cynnig cysur a chysgod rhag y tywydd.

I osgoi siom, archebwch ymlaen llaw.

Wedi ei ddylunio ar ffurf cwt ieir a’i adeiladu yma’n Dolgam, mae’n ddewis arall i’r rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored ymhob tymor. Os ydi’n hwyr y nos arnoch yn cyrraedd yma, neu angen cychwyn yn fore, y cwbl sy’n rhaid ei wneud yw estyn a chadw eich sach gysgu – dim angen gosod na chadw pabell wlyb!

Maint mewnol yw 1.5m wrth 2.3m. Mae’r ddau Cwt Ieir yn cysgu dau berson.  Mae gan cwt 1 lawr gwastad, tra bod gen cwt 2 un gwely sengl wedi ei godi oddi ar y llawr ar un ochor.  Mae gan cwt 2 drysau stabal.

Mae cyfleusterau’r maes pebyll ar gael i drigolion y ‘cwt ieir’. Lleolir rhain mewn hen adeilad traddodiadol wedi ei addasu i gynnwys ystafelloedd ymolchi, toiledau, cawodydd a lle i olchi llestri.

Gan fod mwyafrif ein cwsmeriaid yn ymweld â’r ardal i fwynhau ei harddwch a’i thawelwch, rydym yn gweithredu polisi ‘dim swn’ llym gyda’r nos.

Tariff Cwt Ieir

EitemPris
Dau'n rhannu£27 y noson
Unigolyn£17 y noson
  • Pob pris a nodir am noson.
  • Ni chaniateir anifeiliaid anwes.
  • Polisi dim ysmygu pendant.
  • Mae Cwt Ieir ar agor drwy’r flwyddyn.
  • I osgoi siom, archebwch ymlaen llaw.
  • Cofiwch ddod a gwely aer/mat cysgu a sach gysgu hefo chi.