Archebwch

Sut i Archebu Lle

Rydym bellach yn gwbl agored ond mae angen archebu lle ymlaen llaw a hynny drwy ebost.

Er mwyn hwyluso eich cais am le, anfonwch y manylion isod yn eich ebost os gwelwch yn dda:

  • G&B, ‘cwt ieir’ neu wersylla
  • os yn gwersylla, a oes angen trydan?
  • faint o bobl
  • pa ddyddiadau
  • eich rhif ffôn symudol
  • cyfeiriad eich cartref
  • enw a rhif ffôn symudol pob oedolyn

Os am archebu lle, ebostiwch yr wybodaeth uchod i: dolgam1927@gmail.com

Gellwch ein ffonio ar 07375 682769 ond cofiwch bod rhaid ebostio i archebu lle.

Diolch yn fawr, Dolgam

Dod o Hyd i Dolgam

Dengys y map isod sut i gael hyd i Dolgam sydd ar ochr yr A5 3.5 milltir o Betws y Coed am Gapel Curig.