Darganfod Eryri a Gogledd Cymru o Dolgam ger Betws‑y‑Coed
Wedi ei leoli ar yr A5 rhwng Betws y Coed a Chapel Curig, mae Dolgam yn safle perffaith i fwynhau holl atyniadau Eryri.
- Rhwng Betws-y-Coed a’r Wyddfa
- Digonedd o atnyiadau a gweithgareddau cyfagos
- Golygfeydd godidog
Boed ar droed, ar feic neu mewn cerbyd, mae’r dewis bron yn ddi ben draw am wyliau llawn antur.

Gweithgareddau o Gwmpas Dolgam

Cerdded/Mynydda
Gyda holl fynyddoedd Cymru sydd dros 3,000 o droedfeddi oddi fewn 10 milltir i’r safle, yn ogystal â choedwig Gwydr o fewn tafliad carreg, mae cannoedd o filltiroedd o lwybrau cyhoeddus i’w mwynhau. Beth bynnag fo’r tywydd, neu uchelgais yr unigolyn, mae posib dewis y daith ddelfrydol ar gyfer pob achlysur.
Beicio Mynydd
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Eryri wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau beicio mynydd Prydain. Mae’r llwybyr Marin lai na 5 munud i ffwrdd ar y beic o Dolgam, gyda llwybrau Penmachno a chanolfan beicio ‘Lawr Allt’ Antur Stiniog lai na 30 munud i ffwrdd yn y car, neu awr ar feic.
Gweithgareddau Eraill
Erbyn hyn, mae gan yr ardal nifer o atyniadau unigryw i’r DU, mae’r rhain yn cynnwys Surf Snowdonia, sef y ganolfan syrffio mewndirol chyntaf o’i math yn y DU, Zip World yn Bethesda, sydd gyda’r linell hiraf yn Ewrop, Bounce Below yn Blaenau Ffestiniog, Tree Top Adventures ym Metws y Coed a Go Below ym Mhenmachno.
Cymerwch olwg ar y map uwchben i weld pa mor hygyrch ydynt o Dolgam.
Atyniadau
Mae ystod eang iawn o atyniadau i ymwelwyr yn yr ardal leol. Ceir trenau ager yn Rheilffordd Ffestiniog, Rheilffordd Ucheldir Cymru a thrên yr Wyddfa wrth gwrs. Mae nifer o gestyll ac adeiladau hanesyddol yn yr ardal i’w ymweld.
!!! See our ‘Book Now‘ page for a location map and route planner. !!!










