Gwersyllfa

Gwersyllfa Dolgam ger Betws-y-Coed yn Eryri

Lleolir maes gwersyllfa Dolgam ar lan yr afon Llugwy rhwng Betws y Coed a Chapel Curig yng ngalon Parc Cenedlaethol Eryri.

  • Golygfeydd godidog o Foel Siabod
  • Pebyll, faniau campio ac olwyndai
  • ‘Hook ups’ trydan ar gael
  • Pwynt gwaredu gwastraff toiled cemegol

Gan fod y wersyllfa ar agor drwy gydol y flwyddyn, mae’n ganolbwynt delfrydol i fwynhau Eryri ymhob tymor.

Pebyll
Olwyndai
‘Hookups’
Dim Carafaniau
Dim Cŵn
Dim Tannau
Dim Miwsig

Edrychwch ar fideo o Wersyllfa Dolgam isod.

Youtube video

Manylion Gwersyllfa

Mae hen feudy traddodiadol wedi ei drosi i adeilad cyfleusterau, sydd yn cynnwys toiledau, cawodydd poeth, ystafelloedd ymolchi a man golchi llestri. Mae pwynt gwaredu gwastraff toiled cemegol ar y safle yn ogystal.

Erbyn hyn mae nifer cyfyngedig o ‘hook ups’ trydan a lleiniau caled ar gael a rhaid archebu rhain ymlaen llaw. Ar benwythnosau yn yr haf ac ar wyliau’r banc awgrymir cysylltu ymlaen llaw i osgoi siom.

Gan fod mwyafrif ein cwsmeriaid yn ymweld â’r ardal i fwynhau ei harddwch a’i thawelwch, rydym yn gweithredu polisi ‘dim swn’ llym gyda’r nos. I’r perwyl hyn, byddwn weithiau yn gofyn i grwpiau sydd heb aros gyda ni o’r blaen roi blaendal o arian parod.

Gwiriwch y rhestr isod i weld os yw gwersyllfa Dolgam yn addas i chi.

Croeso

  • Teuluoedd
  • BBQ
  • Camperfans
  • Motor homes
  • Trailer tents
  • Clybiau mynydda
  • Grwpiau DoE
  • Colegau/ysgolion

Ni Chaniateir

  • Tannau agored
  • Cŵn
  • Grwpiau stag/hen
  • Carafaniau

Tariff Gwersyllfa

EitemPris
Y person£12
Oedran rhwng 5 ac 17£10
'Hook up' trydan£6
  • Pob pris a nodir am noson.
  • Nid ydyn yn derbyn cwn gan fod defaid o amgylch y gwersyllfa.
  • Mae gwersyllfa Dolgam ar agor dwy’r flwyddyn.
  • I sicrhau llain galed a/neu drydan, archebwch ymlaen llaw.