Gwersyllfa a Gwely & Brecwast Fferm Dolgam ger Betws-y-Coed, Eryri
Wedi ei leoli yng nghalon Eryri ar lan yr afon Llugwy, mae Dolgam wedi bod yn hafan i gerddwyr a dringwyr sydd yn ymweld â’r ardal ers bron i 100 mlynedd.
O ganlyniad i’r golygfeydd trawiadol a’i leoliad delfrydol rhwng Betws y Coed a Chapel Curig yn Eryri, mae maes gwesylla Dolgam yn parhau i fod yn fecca i’r sawl sy’n dymuno mwynhau’r awyr agored. Os am ychydig yn fwy o foethusrwydd, beth am drio y Cwt Ieir – hanner ffordd rhwng pabell a ‘bunkhouse’.
Os dymunwch am fwy o foethusrwydd, yna mae croeso i chi aros yn nhŷ’r fferm a chael brecwast blasus wedi ei goginio i chi yn y bore.
Edrychwch ar fideo o Wersyllfa Dolgam isod.




