Gwely a Brecwast (GaB) Fferm Dolgam ger Betws-y-Coed
Dewch i fwynhau gogoniant naturiol Eryri ac aros yma gyda ni yn Nolgam.
- Cyfleusterau 'en suite'/preifat ar gyfer pob ystafell
- Digon o le i gadw'r car
- WiFi am ddim
- Offer paned ymhob lloft
- Hylendid bwyd 5 seren
Fferm weithredol yw Dol gam, yn magu defaid a gwartheg wrth droed Moel Siabod, ynghanol Parc Cenedlaethol Eryri rhwng pentref Betws y Coed a phentref Capel Curig.
Manylion Gwely a Brecwast
Saif y ffermdy , sydd dros 200 oed, ar fin yr A5 ac mae wedi cynnig llety i ymwelwyr ers dros gan mlynedd o leiaf. Mae ei leoliad yn ddelfrydol ar gyfer cymaint o atyniadau a gweithgareddau lleol.
Cynigiwn ystafelloedd helaeth a chyfforddus i deuluoedd, cyplau ac unigolion gyda chyfleusterau 'en suite'. Ceir sychwr gwallt, teledu, offer paned a WiFi ymhob llofft.
Darperir brecwast llawn/ llysieuol ynghyd â dewis eang o rawnfwydydd, ffrwythau ffres ac iogwrt yn yr ystafell fwyta ac mae modd archebu pecyn bwyd ymlaenllaw.
I ymlacio gyda'r nos, neu i gynllunio eich gweithgareddau ar gyfer drannoeth mae lolfa, gyda theledu, ar eich cyfer. Os yn beicio, cynigiwn gadw'r beic dan glo ac mae cyfleusterau sychu dillad ar gael os yw'r tywydd wedi bod yn anffafriol.
Cewch gadw eich car ar fuarth y fferm ac mae gardd sylweddol o flaen y tŷ. Gan mai fferm weithredol yw Dolgam ni chaniatawn anifeiliaid anwes. Wrth gwrs bod Dol-gam gyda pholisi DIM YSMYGU.